Y Faner Newydd

Dydd Mercher, 19 Mehefin 2013

Record Hir Lleisiau

Ebost Argraffu
Record hir Lleisiau

Gwrandewch ar ganeuon o record hir Lleisiau neu lwytho'r record gyfan i'ch cyfrifiadur.  Mae llawer o'r caneuon arni'n brin, a does dim modd cael gafael mewn ambell un yn unman arall.

Yn 1975 rhyddhaodd mudiad Adfer record hir o'r enw Lleisiau oedd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid amrywiol. Cytunodd yr artistiaid a chynhyrchwyr y record i berfformio a gweithio am ddim er mwyn Adfer a'r Fro Gymraeg.

Gallwch wrando ar y caneuon sydd ar record hir Lleisiau drwy ddefnyddio'r chwaraewr MP3 sydd ar y dudalen hon, neu eu llwytho i'ch cyfrifiadur ar ffurf ffeiliau MP3 drwy roi clec dde i'r gair Llwytho yn y golofn dde, ac yna Cadw'r Cysylltiad Fel... (Save Link As...). Yn anffodus mae rhai fersiynau o Internet Explorer yn gwrthod chwarae'r caneuon arlein, a gallwch ddatrys hyn trwy ddefnyddio porwr gwe safonol.

I lwytho record hir Lleisiau i gyd i'ch cyfrifiadur rhowch glec fan hyn: Lleisiau MP3 .zip (30.4 MB).

Diolch yn fawr i Dylan Williams o Ystrad Aeron am ddigideiddio a glanhau'r gerddoriaeth o'r record wreddiol.

Chwarae / Oedi / Atal / Cynnydd Artist Cân Llwytho
Cwrwgl Sam Cei Llwytho
Cleif Prendelyn A Oes Heddwch Llwytho
Dewi Morris Cymer Ddwr, Halen a Thân Llwytho
Meic Stevens Dic Penderyn (recordiad byw) Llwytho
Potes Maip Difaru Llwytho
Hergest Clychau Cantre'r Gwaelod Llwytho
Bilidowcar a'r Gwylanod Symud Mlan Llwytho
Cwrwgl Sam Henaint Llwytho
Owen / Edwards / Prendelyn Maes Gwenllian Llwytho
Morus Elfryn Nis Gallwn i Weled Llwytho
Mynediad Am Ddim Padi Llwytho
Bilidowcar a'r Gwylanod Wncwl Dan Llwytho
Meic Stevens Santiana (recordiad byw) Llwytho
Phil Edwards Pen y Daith Llwytho
Hergest Gwaed yr Haul i'r Pridd Llwytho
Cleif Prendelyn Draw ar y Mynydd Llwytho

Manylion Lleisiau